Topic outline
Tân gwyllt gwych
Croeso i’r gweithdy Trio Sci Cymru – Tân gwyllt gwych. Byddwch yn dysgu am wahanol agweddau ar dân gwyllt gan gynnwys:
- hanes tân gwyllt ,
- eu strwythur,
- sut mae'r goleuadau lliwgar yn cael eu cynhyrchu
- a'r newidiadau egni sy'n digwydd.
RHYBUDD: Peidiwch byth â chwarae gyda thân gwyllt gartref. Mae'r arbrofion a ddangosir yn y fideos yn cael eu cynnal gan bobl broffesiynol sydd wedi cael eu hyfforddi.
Meddygon Myddfai
Mae'r cwrs hwn yn edrych ar fioleg a chemeg planhigion a sut gellir eu defnyddio am eu priodweddau meddyginiaethol. Byddwn yn edrych ar:
- hanes planhigion meddyginiaethol,
- bioamrywiaeth planhigion,
- olewau hanfodol a’u priodweddau gwrthfacterol
- gwahanu cyfansoddion planhigion oddi wrth echdynion planhigion.
RHYBUDD: Peidiwch byth â hunan-feddyginiaethu gan ddefnyddio perlysiau heb gyngor eich meddyg.
Gwyddoniaeth Siocled
Mae'r fideo hwn yn edrych ar wahanol agweddau ar wyddoniaeth siocled gan gynnwys:
- Y newidiadau cemegol a ffisegol sy'n digwydd wrth gynhyrchu siocled,
- Y manteision iechyd sy'n gysylltiedig â bwyta siocled yn gymedrol,
- Pam mae siocled yn wenwynig i gathod a chŵn,
- A sut y gall newid hinsawdd arwain at brinder siocled.
Blwyddyn 10 Gwaith ymarferol penodol Cemeg CBAC
Mae'r adnodd hwn wedi'i gynllunio i gefnogi addysgu'r gwaith ymarferol penodol Cemeg CBAC. Yn cynnwys fideos o sut i gynnal yr arbrofion a'r taflenni gwaith cysylltiedig.
RHYBUDD: Peidiwch â rhoi cynnig ar yr arbrofion hyn heb athro yn bresennol sydd wedi cynnal asesiad risg llawn.
Ystafell dianc tabl cyfnodol
Rydych wedi anghofio'r cyfrinair i'r labordy gwyddoniaeth. Dim ond os gallwch ddatrys pum pos cemeg y cewch y cyfrinair!
Nanoddiemwntau
Mae'r gweithgaredd hwn yn edrych ar nodweddion a defnyddiau newydd cyffrous ar gyfer diemwntau nano-faint (nanoddiemwntau). Mae'r rhain yn ddiemwntau sy'n llai na 100 nanometrau.